Rydych chi wedi cwblhau 0% o'r arolwg hwn
Caution: JavaScript execution is disabled in your browser or for this website. You may not be able to answer all questions in this survey. Please, verify your browser parameters.

Academi Gofal Gwynedd

Os am flas o weithio yn y sector Gofal neu os angen cymorth i gyrraedd eich swydd ddelfrydol gall yr Academi Gofal eich helpu. Mae gennym amrywiaeth eang o wahanol opsiynau ar gael er mwyn eich arwain a chynghori wrth i chi ddewis eich gyrfa.

 

Mae rhai o wasanaethau Gofal Cyngor Gwynedd yn barod i agor eu drysau i bobl sydd eisiau deall mwy am y sector, deall mwy am y math o swyddi sydd ar gael, a deall mwy am beth mae gweithio yn y maes gwir yn ei olygu. Rydym yn hapus i groesawu pawb sydd efo diddordeb dilyn gyrfa yn y maes bod hynny yn gyfnod o wirfoddoli, yn brofiad gwaith neu yn waith cyflogedig.

 

Mae’r cynllun yn gyfle unigryw i unrhyw un ddatblygu gyrfa yn y sector Gofal yng Nghyngor Gwynedd. Byddwch yn derbyn profiadau ymarferol ac yn cael amryw o gyfleoedd i ddatblygu drwy gael eich mentora gan arbenigwyr yn y maes. Bydd cyfleoedd datblygu parhaus ar gael i chi gael meithrin a datblygu eich sgiliau i sicrhau gyrfa hir a llwyddiannus o fewn gwasanaethau Gofal Cyngor Gwynedd.

 

I fynegi eich diddordeb, cwblhewch yr holiadur yma a daw aelod o staff yn nôl atoch cyn gynted â phosib.