Fel rhan o raglen Gosod Sylfaen ar gyfer Buddsoddiad, Balchder a Bwrlwm Canol Trefi Gwynedd, sydd wedi ei ariannu drwy raglen Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU, mae Cyngor Gwynedd wedi datblygu a gweithredu ystod o brosiectau fel rhan o’r ymdrech i adfywio, codi balchder a chreu bwrlwm yng nghanol trefi Gwynedd. Gyda un cynllun wedi ei wireddu yng nghanol tref Y Bala;
• Murlun ar ochor adeilad y Co-op
Fel rhan o broses gwerthuso’r cynllun yn ei gyfanrwydd rydym yn awyddus i dderbyn adborth lleol ar effaith y prosiect uchod ar canol tref Y Bala.
Bydd canlyniadau’r holiadur hwn yn ein galluogi i adrodd ar allbynnau a chanlyniadau’r rhaglen ariannu, yn ogystal a’n cynorthwyo wrth ddatblygu prosiectau Canol Trefi i’r dyfodol.
Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei gadw o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data. Deddf Rhyddid Gwybodaeth (llyw.cymru)
Fe fydd yr holiadur hwn yn cau ar 29 o Ionawr 2025