Caution: JavaScript execution is disabled in your browser or for this website. You may not be able to answer all questions in this survey. Please, verify your browser parameters.

Ffurflen Ymateb- Ymgynghoriad Statudol ar y cynnig i gau Ysgol Baladeulyn

Mae Cyngor Gwynedd yn ymgynghori ar gynnig i gau Ysgol Baladeulyn. Y cynnig yw:  “i gau Ysgol Baladeulyn ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol Talysarn o 1 Ionawr 2027 ymlaen.”

Mae’r ddogfen ymgynghori statudol a’r asesiadau effaith cysylltiedig ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/YmgynghoriadYsgolBaladeulyn

Mae’r ffurflen ymateb yma’n eich caniatáu i gyflwyno sylwadau neu gwestiynau ar unrhyw agwedd o’r cynnig, yr opsiynau amgen a nodwyd, a/neu awgrymu opsiynau eraill.

Noder na chaiff ymatebion i’r ymgynghoriad eu cyfrif fel gwrthwynebiadau i’r cynnig. Bydd cyfle i wrthwynebu’r cynnig os bydd rhybudd statudol yn cael ei gyhoeddi. Dim ond yn dilyn cyhoeddi hysbysiad statudol y gellir cofrestru gwrthwynebiadau.

Bydd yr ymgynghoriad yma yn cael ei gynnal rhwng 10 Rhagfyr 2025 - 28 Ionawr 2026

Mae'r arolwg hwn yn ddienw.

Nid yw'r cofnod o'ch ymatebion i'r arolwg yn cynnwys unrhyw wybodaeth adnabod amdanoch chi, oni bai bod cwestiwn arolwg penodol wedi gofyn yn benodol amdanynt.

Os ydych wedi defnyddio tocyn adnabod i gael mynediad i'r arolwg hwn, ni fydd y tocyn hwn yn cael ei storio ynghyd â'ch ymatebion. Fe'i rheolir mewn cronfa ddata ar wahân a chaiff ei ddiweddaru ond i nodi a wnaethoch chi gwblhau'r arolwg hwn (neu beidio). Nid oes modd cyfateb tocynnau adnabod gydag ymatebion i'r arolwg.