Select language Cymraeg - Cymraeg Yn ôl Cymraeg - Cymraeg English - Saesneg Survey options Llwytho’r arolwg sydd ar ei hanner Parhau yn nes ymlaen Rydych chi wedi cwblhau 0% o'r arolwg hwn default Caution: JavaScript execution is disabled in your browser or for this website. You may not be able to answer all questions in this survey. Please, verify your browser parameters. Ffurflen Gais i ddod yn Aelod o Banel Apêl Ysgolion Mae Cyngor Gwynedd a chyrff llywodraethu ysgolion cynradd ac uwchradd Gwynedd yn gwahodd ceisiadau am aelodau newydd i ymuno â’n Paneli Apêl Addysg Annibynnol. Mae pob panel yn cynnwys tri aelod sy’n annibynnol o’r Awdurdod Lleol. Tasg Panel yw gwrando a phenderfynu ar apeliadau rhieni un ai yn erbyn gwahardd disgybl, neu yn erbyn penderfyniad i wrthod mynediad i blentyn i’w hysgol ddewisol. Yn gyfreithiol, mae’n rhaid i’r Panel gynnwys aelodau lleyg ac aelodau â phrofiad addysg. Gwahoddir mynegiant o ddiddordeb gan bobl o bob cefndir gan mai cynnwys y panel yw aelodau lleyg ac aelodau sydd gan brofiad mewn addysg. Aelod lleyg yw unigolyn heb brofiad personol mewn rheolaeth na darpariaeth addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru profiad fel llywodraethwr ysgol neu mewn capasiti gwirfoddol arall). Mae’n rhaid i baneli sy’n delio ag Apeliadau Mynediad gael aelod sydd â phrofiad mewn addysg hefyd (unigolyn sy’n gyfarwydd ag amodau addysg yn ardal yr awdurdod lleol neu sy’n rhiant i ddisgybl cofrestredig mewn ysgol). Mae’n rhaid i baneli sy’n delio ag Apeliadau Gwahardd hefyd gael Aelod sy’n Llywodraethwr Ysgol ac Ymarferwr Addysg. Mae’r gwaith yn ddi-dâl ond telir am unrhyw gostau teithio a darperir unrhyw hyfforddiant. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda gwasanaethdemocratiaeth@gwynedd.llyw.cymru Pa Banel yr hoffech fod yn Aelod ohono? Dewiswch un o'r atebion canlynol Panel Apêl Mynediad Panel Apêl Gwaharddiad Y Ddau Nesaf Llwytho’r arolwg sydd ar ei hanner Parhau yn nes ymlaen Gadael a chlirio’r arolwg Gadael a chlirio’r arolwg A wnewch chi gadarnhau eich bod am glirio'ch ymateb?