Beth yw pwrpas yr Holiadur?
Rydym yn awyddus i dderbyn eich syniadau ar gyfer datblygu cynllun celfyddydau ar bresgripsiwn yng Ngwynedd.
Beth ydy’r Celfyddydau? Ydy’r Celfyddydau i bawb?
Mae’r diffiniad o’r ‘celfyddydau’ yn un eang iawn ac mae rhywbeth i bawb. Mi all fod yn un, cyfuniad neu’r cyfan o’r canlynol – cerddoriaeth, drama, dawns, y celfydyddau gweledol a’r celfyddydau cymhwysol, ffotograffiaeth, ffilm, syrcas, celfyddydau stryd, carnifal, llenyddiaeth, celfyddydau digidol, crefftau, amlgyfrwng, cerflunio, barddoniaeth, theatr gerddoriaeth, canu, celfyddydau cymunedol.
Beth ydym yn olygu gyda Celfyddydau ar Bresgripsiwn?
Yn yr un modd a derbyn meddyginiaeth trwy bresgripsiwn, rydym yn edrych ar sut allwn gynnig celfyddydau ar bresgripsiwn yng Ngwynedd a pha ffordd fyddai orau o wneud hynny. Rydym ym awyddus i dderbyn eich barn a’ch syniadau fel rhan o’r gwaith hwn.
Pwy all gwblhau’r holiadur? Sut byddwn yn defnyddio’r data?
Mae’r holiadur ar gyfer trigolion Gwynedd. Gall sefydliad, gwirfoddolwr neu weithiwr proffesiynol hefyd gwblhau’r holiadur ar ran grŵp o bobl neu ar ran unigolyn.
Nid oes angen i chi gynnwys eich manylion personol (enw neu gyfeiriad). Bydd eich ymateb yn cael ei drin yn gyfrinachol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data (2018) ac ni fyddwn yn gallu eich adnabod o’ch ymatebion. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion gydag unrhyw sefydliad arall. Dim ond at ddibenion Ymchwil Celfyddydau ar Bresgripsiwn byddwn yn defnyddio eich ymatebion a byddent yn cael eu dileu o fewn 6 mis i'r ymchwil ddod i ben.
Mae 15 o gwestiynau yn yr arolwg hwn.