Croeso i ymgynghoriad ar ddrafft ail Gynllun Llesiant Gwynedd a Môn. Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, neu’r BGC fel mae’n cael ei alw’n aml, wedi defnyddio'r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys mewn Asesiadau Llesiant ardaloedd yng Ngwynedd a Môn i edrych ar sut i wella llesiant ar draws y rhanbarth.
Mae gennym ddiddordeb mewn gwybod a ydych chi’n credu y bydd y cynlluniau sydd gennym ni’n helpu i wneud pethau'n well i chi a'ch cymuned. Hoffem hefyd wybod a oes gennych chi unrhyw syniadau eraill am sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd er budd ein cymunedau.
Byddwn yn casglu barn ar y Cynllun Llesiant drafft tan 6 Mawrth 2023.
Bydd angen i chi gyfeirio at y ddogfen Cynllun Llesiant Drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn 2023-28 wrth ymateb i’r holiadur hwn.
Bydd y wybodaeth a roddwch wrth gwblhau'r holiadur hwn yn cael ei drin yn unol â gofynion deddfwriaeth diogelu data.