Caution: JavaScript execution is disabled in your browser or for this website. You may not be able to answer all questions in this survey. Please, verify your browser parameters.

Cyfarwyddyd Erthygl 4

Mae Cyngor Gwynedd wedi gosod ‘Rhybudd’ Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd (sef yr ardal o Wynedd a leolir tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri).

Yn bresennol mae posib newid defnydd tŷ preswyl (sydd yn brif gartref) i ddefnydd ail gartref neu lety gwyliau tymor byr heb orfod derbyn caniatâd cynllunio.

Pwrpas y Cyfarwyddyd Erthygl 4 yw diddymu'r hawl i newid defnydd heb ganiatâd cynllunio, ar gyfer y defnyddiau canlynol:-

 

i. Newid defnydd prif gartref (dosbarth defnydd C3) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) neu lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;

ii. Newid defnydd ail gartref (dosbarth defnydd C5) i lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;

iii. Newid defnydd llety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) a defnyddiau cymysg penodol.  

 

Sut mae hyn yn eich effeithio chi?

Os bydd y Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn cael ei gadarnhau, ac yr ydych yn berchen ar dŷ preswyl (sydd yn brif gartref) yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd ac eisiau ei drosi i fod yn ail gartref, llety gwyliau tymor byr neu ddefnydd cymysg penodol, bydd rhaid i chi gael caniatâd cynllunio gan Awdurdod Cynllunio Lleol Cyngor Gwynedd ar gyfer ymgymryd â’r newid defnydd hynny.

Os ydych yn berchen ar dŷ sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio fel ail gartref, llety gwyliau tymor byr neu ddefnydd cymysg penodol (cyn 1 Medi 2024) – ni fydd y Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn effeithio arnoch chi.

 

Dylid cyfeirio at y 'Rhybudd' a’r ‘Cyfarwyddyd’ i gael manylion llawn.

 

Os oes gennych gwestiwn neu sylw mewn perthynas â’r Cyfarwyddyd Erthygl 4, cysylltwch ar erthygl4@gwynedd.llyw.cymru.

 

 

 

 

Datganiad Preifatrwydd

Byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a gyflwynir i bwrpas dadansoddi’r holiadur yn unig. Ni fydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu y tu allan i’r Cyngor a bydd unrhyw adroddiadau cyhoeddus yn ddi-enw. Bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw am 3 blynedd.

Mae hyn yn cael ei wneud er mwyn cydymffurfio ag erthygl 6(1)(e) o’r UK GDPR, gan fod yr ymgynghoriad yn un statudol.