Strategaeth Cyfranogiad
Hoffem wybod eich barn am y Strategaeth Cyfranogiad.
Nod Strategaeth Cyfranogiad y cyhoedd yw nodi’r trefniadau y mae’r Cyngor yn bwriadu eu rhoi ar waith i ymwreiddio diwylliant o bartneriaeth gyda’r cyhoedd, a gweithredu ar y diwylliant hwnnw.
Mae Strategaeth ar ffurf drafft wedi ei chynnwys i chi ei weld. Byddwn yn addasu’r cynnwys yn dilyn ymatebion y cyhoedd. Byddwn hefyd yn gwella dyluniad y Strategaeth er mwyn ei wneud yn haws ei darllen a’i deall cyn ei chyhoeddi ar ei ffurf derfynol.
Mae ein amcanion wedi eu dangos yn glir yn y strategaeth ddrafft, sy’n cyd-fynd a chanllawiau penodol yn y Ddeddf ynghylch cynnwys y strategaeth.
Mae Cyngor Gwynedd yn ceisio eich barn ar y Strategaeth fel rhan o broses ymgynghori statudol. Defnyddir y manylion a ddarperir gennych i’r pwrpas hwn yn unig. Mae’n bosib y bydd eich sylwadau yn cael eu rhyddhau ond heb gynnwys manylion personol fel enwau a chyfeiriadau, mewn adroddiad i’r Cabinet a’r Cyngor Llawn ar yr ymgynghoriad.