Caution: JavaScript execution is disabled in your browser or for this website. You may not be able to answer all questions in this survey. Please, verify your browser parameters.

Holiadur Bodlonrwydd Teulu Gwynedd

Pwrpas yr holiadur:

Mae’r holiadur hwn yn casglu eich barn ac adborth er mwyn ein helpu i fonitro ac i wella’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i deuluoedd. Defnyddir yr wybodaeth i ddeall eich profiad ac i lywio gwelliannau yn y dyfodol. 

Diogelu Data (GDPR):
Caiff eich ymatebion eu trin yn gyfrinachol ac yn cael eu prosesu yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Ni fyddwn yn casglu nac yn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol nad yw’n angenrheidiol. Cedwir yr wybodaeth am y cyfnod byrraf posibl at ddibenion dadansoddi ac adrodd, ac yna caiff ei dileu’n ddiogel. 

Dewis i dderbyn gwybodaeth (opt in):
Ar ddiwedd yr holiadur, mae gennych yr opsiwn i gydsynio i dderbyn gwybodaeth ddefnyddiol gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, megis:

  • cyngor a chefnogaeth i rieni a gofalwyr,
  • gweithgareddau lleol a digwyddiadau i deuluoedd,
  • gwybodaeth am wasanaethau plant a phobl ifanc,
  • adnoddau a chyngor cadarnhaol i gefnogi teuluoedd.
Os byddwch yn dewis “Ie”, byddwn ond yn defnyddio eich manylion cyswllt i anfon y wybodaeth hon atoch. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd. Os oes gennych gwestiynau ynghylch sut rydym yn defnyddio neu’n diogelu eich data, mae croeso i chi gysylltu â ni. 
Mae 8 o gwestiynau yn yr arolwg hwn.