Rydych chi wedi cwblhau 0% o'r arolwg hwn
Caution: JavaScript execution is disabled in your browser or for this website. You may not be able to answer all questions in this survey. Please, verify your browser parameters.
Amcan 1 - Hyfforddiant i staff a Cynghorwyr

Mae‘r amcan yn addo “Cryfhau a dyfnhau capasiti ac ymrwymiad staff ac Aelodau Etholedig Cyngor Gwynedd ym maes Cydraddoldeb, trwy sicrhau eu bod yn derbyn yr hyfforddiant cywir.”

  • Pwynt gweithredu 1 – Creu rhaglen hyfforddiant cydraddoldeb sy’n addas ar gyfer pob aelod o staff, ac ar gyfer Cynghorwyr, er mwyn iddynt ddeall yn well eu dyletswydd tuag at gydraddoldeb.
  • Pwynt gweithredu 2 – Diweddaru’r wybodaeth sydd ar y mewnrwyd i Gynghorwyr  gan gynnwys canllawiau hyfforddi a gwybodaeth sy'n berthnasol i'r maes cydraddoldeb.
  • Pwynt gweithredu 3 – Rhoi mwy o wybodaeth am gydraddoldeb mewn hyfforddiant arall, fel yr hyfforddiant Croesawu i’r Cyngor (i staff newydd) a Ffordd Gwynedd (y ffordd mae’r Cyngor yn gweithio). 

Erbyn diwedd y cyfnod (diwedd Mawrth 2024) rydym yn ffyddiog y byddwn ni wedi creu rhaglen o hyfforddiant er y bydd mwy i’w wneud.  Mae pwyntiau gweithredu 2 a 3 wedi eu gwneud yn barod.

a) Yda chi’n meddwl y dylem ni barhau i gael amcan am roi gwell hyfforddiant i staff a Cynghorwyr?

b) Eglurwch pam yda chi’n dweud hynny

(Uchafswm 3,500 nod)