Caution: JavaScript execution is disabled in your browser or for this website. You may not be able to answer all questions in this survey. Please, verify your browser parameters.

Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd (sef yr ardal o Wynedd a leolir tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri). Bwriad y Cynllun yma fydd cyfarch anghenion tai, cyflogaeth, cymdeithasol ac amgylcheddol Gwynedd am y cyfnod hyd at 2039.

Yn dilyn ei fabwysiadu, bydd y Cynllun yn llywio penderfyniadau ar gynigion datblygu ac yn ceisio cyfarch anghenion a chyfleoedd yr ardal. Prif bwrpas y Cynllun Datblygu Lleol yw rhoi arweiniad ar y mathau o ddatblygiadau sydd yn addas mewn lleoliadau gwahanol.


Pwrpas yr holiadur yma ydi casglu gwybodaeth a fydd yn cyfrannu at sicrhau fod y Cynllun Datblygu Lleol yn adlewyrchu anghenion a dyheadau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio o fewn ardal y Cynllun Datblygu Lleol.

Byddai darparu ymatebion manwl a chynnwys eglurhad llawn yn ein galluogi i ddeall yn well beth sy’n flaenoriaeth ac yn bwysig i chi.

Datganiad Preifatrwydd

Byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a gyflwynir i bwrpas dadansoddi’r holiadur yn unig. Ni fydd y wybodaeth yn cael ei rhannu tu allan i’r Cyngor a bydd unrhyw adroddiadau cyhoeddus yn ddi-enw. Bydd y wybodaeth yn cael ei chadw am 7 mlynedd.

Mae hyn yn cael ei wneud er mwyn cydymffurfio efo erthygl 6(1)(e) o’r UK GDPR.


Dyddiad cau: 24 Mawrth 2026

Mae'r arolwg hwn yn ddienw.

Nid yw'r cofnod o'ch ymatebion i'r arolwg yn cynnwys unrhyw wybodaeth adnabod amdanoch chi, oni bai bod cwestiwn arolwg penodol wedi gofyn yn benodol amdanynt.

Os ydych wedi defnyddio tocyn adnabod i gael mynediad i'r arolwg hwn, ni fydd y tocyn hwn yn cael ei storio ynghyd â'ch ymatebion. Fe'i rheolir mewn cronfa ddata ar wahân a chaiff ei ddiweddaru ond i nodi a wnaethoch chi gwblhau'r arolwg hwn (neu beidio). Nid oes modd cyfateb tocynnau adnabod gydag ymatebion i'r arolwg.