Rydym wedi cychwyn ar y broses o adolygu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar y Cyd Gwynedd a Môn ac eisiau clywed eich barn ar gynnwys yr Adroddiad Adolygu.
Yn unol a chanllawiau cenedlaethol, mae’n rhaid i ni adolygu’r Cynllun pob pedair blynedd a pharatoi Cynllun Diwygiedig. Gan fod y Cynllun presennol wedi ei fabwysiadu ar 31 Gorffennaf 2017, rydym wedi paratoi Adroddiad Adolygu
Mae’r Adroddiad Adolygu yn edrych ar yr holl dystiolaeth sydd yn berthnasol i’r CDLl ar y Cyd a dod i gasgliad ynglŷn â’r math o adolygiad bydd yn cael ei ddilyn. Nid yw’n manylu ar unrhyw newidiadau y bydd yn cael eu gwneud i’r Cynllun.
Rydym eisiau clywed eich barn ar gynnwys yr Adroddiad Adolygu. Os gwelwch yn dda llenwch yr holiadur canlynol. Mae’r Adroddiad Adolygu Drafft yn destun cyfnod ymgynghori cyhoeddus o 6 wythnos rhwng 5 Tachwedd hyd at 20 Rhagfyr 2021.
Diogelu Data: Byddwn yn casglu eich manylion personol fel y gallwn gysylltu efo chi yn y dyfodol i holi os oes gennych farn am y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. O dan ddeddfwriaeth diogelu data, rydym yn gwneud hyn ar sail ein tasg gyhoeddus gan ei fod yn ddyletswydd arnom i ymgynghori a budd-ddeiliaid yn ystod y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol.
Eich enw a’ch sylwadau yn unig fydd ar gael yn y cylch cyhoeddus (cyflwyno i Lywodraeth Cymru, mewn adroddiadau Pwyllgor ayyb).
Cedwir eich manylion gennym tra bod y broses o baratoi Cynllun yn parhau. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn a Diogelu Data cysylltwch a SwyddogDiogeluData@gwynedd.llyw.cymru