Rydych chi wedi cwblhau 0% o'r arolwg hwn
Caution: JavaScript execution is disabled in your browser or for this website. You may not be able to answer all questions in this survey. Please, verify your browser parameters.
Holiadur Cyfathrebu Gwasanaeth Cymdeithasol Cyngor Gwynedd

Mae gan Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd, sy’n cynnwys Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ac Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd, rwymedigaeth statudol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion. Mae’r gwasanaethau yn grymuso trigolion i reoli eu bywydau eu hunain; hybu annibyniaeth; cefnogi cynhwysiant cymdeithasol a'u cyfranogiad mewn cymdeithas; a hyn oll wrth helpu pobl i gadw'n ddiogel ac yn iach.

Rhan fawr o wneud y gwaith hwn yw cyfathrebu gyda chi; defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a thrigolion y sir. Felly, credwn ei fod yn holl bwysig deall beth yw eich barn chi ar ein cyfathrebu presennol. Carwn glywed eich meddyliau er mwyn deall beth yw’r ffyrdd orau a mwyaf addas i ni gyfathrebu â chi yn y dyfodol.

*Mae’r holiadur hwn yn ddienw. Peidiwch â chynnwys gwybodaeth a fyddai'n datgelu pwy ydych chi neu unrhyw unigolyn arall oni bai eich bod yn dymuno i ni gysylltu â chi ynglŷn â chyfleoedd i ymgysylltu ymhellach.

Diolch i chi am ein cynorthwyo.