Caution: JavaScript execution is disabled in your browser or for this website. You may not be able to answer all questions in this survey. Please, verify your browser parameters.

Ardoll Ymwelwyr Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd yn ymgynghori ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Ymwelwyr yn y sir. Rydym eisiau eich barn fel trigolion, busnesau, ymwelwyr neu randdeiliaid er mwyn eu hystyried yn ein trafodaethau.

Beth yw'r Ardoll Ymwelwyr?

Bydd yr Ardoll yn dâl dyddiol a delir gan bobl sy'n aros dros nos mewn llety i ymwelwyr, megis gwestai, bythynnod gwyliau, llety gwely a brecwast, a meysydd gwersylla.

Ei nod yw cefnogi cymunedau, diwylliant a’r iaith Gymraeg, busnesau, cyfleusterau a’r amgylchedd leol trwy ail fuddsoddi’r incwm yn ôl yn yr ardal.

Cyfraddau'r Ardoll

  • Maes gwersylla pebyll a llofftydd a rennir (hosteli a dorm): £0.75 y person y nos (£0.90 yn cynnwys TAW)
  • Pob math arall o lety gwyliau (carafán, cartref modur hunan-ddarpar, gwely a brecwast, gwesty, ayyb.): £1.30 y person y nos (£1.56 yn cynnwys TAW)

Eithriadau

Ni fyddwch yn talu'r Ardoll Ymwelwyr os ydych chi:

  • o dan 18 oed ac yn gwersylla mewn pabell neu'n aros mewn ystafell a rennir gydag eraill (fel llety math hostel neu ystafelloedd aml-wely)
  • yn aros mwy na 31 noson ar un archeb
  • yn aros mewn llety brys neu dros dro a drefnwyd gan y cyngor lleol

Nid yw Cyngor Gwynedd wedi gwneud penderfyniad eto ynghylch cyflwyno Ardoll yn lleol, ond mae Cynnig Ardoll Gwynedd wedi ei baratoi i osod allan sut allai Ardoll gael ei weithredu yn lleol.

Dogfennau perthnasol

Datganiad preifatrwydd

Byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a gyflwynir i bwrpas dadansoddi’r holiadur yn unig. Bydd yn cael ei rhannu efo cwmni allanol i bwrpas dadansoddi’r canlyniadau. Bydd unrhyw adroddiadau cyhoeddus yn ddi-enw. Cedwir y wybodaeth bersonol am 5 mlynedd.
Mae hyn yn cael ei wneud o dan erthygl 6(1)(e) o’r UK GDPR, gan fod yr ymgynghoriad yn un statudol.

Ymwadiad: Mae’r ymgynghoriad hwn yn casglu gwybodaeth am gyfeiriad IP er mwyn atal ymatebion dyblyg neu awtomataidd. Defnyddir y wybodaeth hon yn unig i ddiogelu cywirdeb canlyniadau’r ymgynghoriad ac ni chaiff ei defnyddio i adnabod ymatebwyr yn bersonol. Caiff yr holl ddata ei brosesu’n ddiogel ac yn unol â’r deddfau diogelu data perthnasol.