Caution: JavaScript execution is disabled in your browser or for this website. You may not be able to answer all questions in this survey. Please, verify your browser parameters.

Polisi Cludiant Addysg Drafft

Mae Cyngor Gwynedd yn ymgysylltu gyda’r cyhoedd ar Bolisi Cludiant Addysg Drafft.

Cefndir

Mae’r Polisi Cludiant Addysg sydd yn weithredol ar hyn o bryd yn dyddio’n ôl i 2009, ac er nad oes newid i’r gofynion statudol ynghlwm â darparu cludiant i ddysgwyr, mae angen adolygu’r polisi er mwyn:

Sicrhau ein bod yn cyfarch gofynion a chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru:
Yr angen i ymgynghori o leiaf 12 mis cyn cyflwyno newid i ran neu pob elfen dewisol o’r polisi

Sicrhau eglurder ar yr elfennau dewisol er tegwch i blant pobl ifanc a’u teuluoedd:
Mae yna anghysondeb o ystyried cynnwys holl feysydd y polisi presennol

Sicrhau bod y polisi’n addas i bwrpas ac yn eglur a hawdd i’w weithredu o fewn yr adnoddau sydd ar gael:
Mae’r polisi wedi dyddio sy’n golygu nad oes modd gweithredu elfennau ohono bellach yn sgil gofynion a chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru. Hefyd, mae’r polisi yn amwys sy’n ei gwneud yn anodd i’r Awdurdod wneud penderfyniadau clir a chytbwys am gludiant addysg 

Mae’r prif newidiadau a gynigir i’r Polisi Cludiant Addysg Drafft yn y meysydd canlynol:

  • Cynllun Seddi Gweigion
  • Ysgolion ffydd
  • Preswyliad Deuol
  • Cludiant ôl-16

Dogfennau

Datganiad preifatrwydd

Byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a gyflwynir wrth ymateb i bwrpas dadansoddi’r holiadur yn unig. Bydd yr ymatebion yn cael eu cadw am 5 mlynedd ar ôl dyddiad cau'r holiadur.
Mae hyn yn cael ei wneud er mwyn cydymffurfio ag erthygl 6(e) o’r UK GDPR, gan ein bod yn gofyn eich barn am wasanaeth statudol.
 

Dyddiad cau: 13:00 ar 20 Mawrth, 2026

Mae'r arolwg hwn yn ddienw.

Nid yw'r cofnod o'ch ymatebion i'r arolwg yn cynnwys unrhyw wybodaeth adnabod amdanoch chi, oni bai bod cwestiwn arolwg penodol wedi gofyn yn benodol amdanynt.

Os ydych wedi defnyddio tocyn adnabod i gael mynediad i'r arolwg hwn, ni fydd y tocyn hwn yn cael ei storio ynghyd â'ch ymatebion. Fe'i rheolir mewn cronfa ddata ar wahân a chaiff ei ddiweddaru ond i nodi a wnaethoch chi gwblhau'r arolwg hwn (neu beidio). Nid oes modd cyfateb tocynnau adnabod gydag ymatebion i'r arolwg.