Caution: JavaScript execution is disabled in your browser or for this website. You may not be able to answer all questions in this survey. Please, verify your browser parameters.

Adfywio Canol Trefi Gwynedd: Rhestr Contractwyr

Mae Cyngor Gwynedd yn ymrwymo i adfywio canol trefi ac yn awyddus i gefnogi perchnogion eiddo i wella neu ddod ag adeiladau yn ôl i ddefnydd. Fel rhan or fenter, mae’r Cyngor yn ceisio llunio rhestr o gontractwyr a chrefftwyr profiadol y gellir eu hystyried ar gyfer gwaith cynnal, adnewyddu neu addasu eiddo.

Bydd y wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ein helpu i greu adnodd defnyddiol a fydd yn aros yn weithredol am bum mlynedd ac yn cael ei adolygu ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. 

Mae 7 o gwestiynau yn yr arolwg hwn.
Polisi preifatrwydd

Nid yw Cyngor Gwynedd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd o gwbl am berfformiad, ymddygiad, ansawdd gwaith, costau, canlyniadau, nac unrhyw anghydfod sy’n deillio o ymgysylltu ag unrhyw fusnes neu gontractwr sydd wedi’i restru; nid yw cael eich cynnwys ar y rhestr yn awgrymu argymhelliad, cefnogaeth, dilysiad nac achrediad gan y Cyngor, ac mae’r holl ddyletswydd dyladwy yn parhau’n gyfrifoldeb llwyr ar berchennog yr eiddo.

Drwy gofrestru i gael eich cynnwys ar y rhestr hon, rydych yn cydnabod ac yn cytuno i’r canlynol:

  • Er nad yw’r Cyngor yn argymell unrhyw un yn benodol, gobeithiwn y bydd y rhestr yn fan cychwyn defnyddiol i'r rhai sy'n dymuno buddsoddi yn eu heiddo. Nid yw cynnwys ar y rhestr yn gwarantu gwaith nac unrhyw ymrwymiad cytundebol.
  • Nid yw cynnwys ar y rhestr hon yn gyfystyr ag unrhyw gymeradwyaeth, argymhelliad na gwarant ansawdd gwaith gan Gyngor Gwynedd.
  • Nid yw Cyngor Gwynedd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd dros unrhyw berthynas cytundebol neu anghytundeb sy’n codi rhwng perchnogion eiddo a’r contractwyr a restrir.
  • Cyfrifoldeb y contractwyr yw datgan unrhyw achrediadau perthnasol (e.e., SSIP, CHAS, tystysgrifau iechyd a diogelwch, yswiriant atebolrwydd cyhoeddus) wrth gofrestru. Nid yw Cyngor Gwynedd yn gwirio’r achrediadau hyn; cyfrifoldeb y perchnogion eiddo yw cynnal eu hymchwiliadau eu hunain.
  • Bydd y rhestr ar gael am bum mlynedd (tan fis Mai 2030), ond bydd yn cael ei hadolygu a’i ddiweddaru yn flynyddol os fydd angen. Gall busnesau hychwanegu eu hunain i'r rhestr ar unrhyw adeg. Yn yr un modd gall contractwyr ofyn i gael eu tynnu oddi ar y rhestr ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r Tîm Cymorth Busnes. Mae gan Cyngor Gwynedd yr hawl i dynnu unrhyw fusnes oddi ar y rhestr ar unrhyw adeg.
  • Bydd y rhestr ar gael yn gyhoeddus ar wefan Cyngor Gwynedd, ac y wybodaeth ar gael i unrhyw unigolyn sy’n cysylltu â’r Tîm Cymorth Busnes yn uniongyrchol. Gall hyn gynnwys enw’r busnes, eich enw chi ac unrhyw fanylion cyswllt.

Am fwy o wybodaeth neu gymorth pellach, cysylltwch â’r Tîm Cefnogi Busnes. Busnes@gwynedd.llyw.cymru