Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid eisiau deall yn well beth yw eich profiadau, eich barn a’ch anghenion er mwyn gwella’r gefnogaeth rydym yn ei gynnig i chi. Bydd yr holiadur hwn yn rhoi cyfle i chi rannu eich syniadau a’ch barn yn agored, gan ein helpu i lunio gwasanaethau sy'n adlewyrchu'r hyn sydd wir yn bwysig i chi.
Byddwn yn defnyddio’r canfyddiadau hyn i asesu beth sy’n gweithio’n dda ac i nodi meysydd lle gallwn wneud newidiadau neu welliannau. Mae eich llais yn hanfodol wrth i ni gynllunio a datblygu gwasanaethau yn y dyfodol.
Diolch yn fawr am gymryd yr amser i gyfrannu – chi sy’n gwneud gwahaniaeth i’n gwasanaeth ac i ddyfodol pobl ifanc!