Llenwch yr holiadur byr hwn er mwyn rhoi eich barn am newidiadau posib i’r system bleidleisio ar gyfer ethol Cynghorwyr Sir.
Mae gwybodaeth am y newidiadau posib ar gael ar ein gwefan: www.gwynedd.llyw.cymru/systembleidleisiogwynedd
Bydd eich ymateb yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data (2018).
Byddwn angen eich enw a’ch côd post er mwyn gwirio eich bod ar y Gofrestr Etholiadol gan fod Adran 5 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn nodi mai dim ond barn trigolion sydd wedi cofrestru i bleidleisio yng Ngwynedd y gallwn eu hystyried.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yma ar gyfer gwirio’r Gofrestr Etholiadol yn unig. Ni fydd yn cael ei ddefnyddio wrth ddadansoddi’r ymatebion.
Byddwn yn dileu enwau pawb sydd wedi anfon sylwadau 3 mis ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben.