Caution: JavaScript execution is disabled in your browser or for this website. You may not be able to answer all questions in this survey. Please, verify your browser parameters.

Polisi Iaith Addysg Enghreifftiol Gwynedd


Mae Cyngor Gwynedd yn ymgysylltu gyda’r cyhoedd ar Bolisi Iaith Addysg Enghreifftiol.

Dyma'r dogfennau perthnasol:

Polisi Iaith Addysg yn Ysgolion Gwynedd

Canllaw arfaethedig i Bolisi Iaith Addysg Enghreifftiol Cyngor Gwynedd


Mae Polisi Iaith Addysg Cyngor Gwynedd yn rhan greiddiol o Strategaeth Iaith Cyngor Gwynedd ac yn cyd-fynd â blaenoriaeth ganolog y Strategaeth, sef cynnal a grymuso’r Gymraeg . Bwriad y polisi iaith enghreifftiol yw sicrhau bod pob disgybl yng Ngwynedd yn cael cyfle i feithrin sgiliau cadarn yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’r ffurflen ymateb yma’n caniatáu i chi gyflwyno sylwadau neu gwestiynau ar unrhyw agwedd o’r polisi enghreifftiol.

 

Datganiad Preifatrwydd
Byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a gyflwynir wrth ymateb i bwrpas dadansoddi’r holiadur yn unig. Bydd yr ymatebion yn cael eu cadw am 7 mlynedd ar ôl dyddiad cau'r holiadur.
Mae hyn yn cael ei wneud er mwyn cydymffurfio ag erthygl 6(e) o’r UK GDPR, gan ein bod yn gofyn eich barn am wasanaeth statudol.