Yn dilyn mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, mae Cyngor Gwynedd wedi paratoi cyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol. Mae Canllawiau Cynllunio Atodol yn rhoi arweiniad a rhagor o fanylion angenrheidiol am bolisïau penodol yn y Cynllun Datblygu Lleol. Dylai'r Canllawiau hyn, gynnig fwy o sicrwydd i ymgeiswyr, a'u helpu nhw i baratoi ceisiadau cynllunio addas i'w cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol. Nid oes gan y Canllawiau Cynllunio Atodol yr un statws â’r polisïau sy'n rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol, ond, maent yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.
Hoffem glywed eich barn ar y CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL: RHEOLI’R DEFNYDD O DAI FEL CARTREFI GWYLIAU (AIL GARTREFI A LLETY GWYLIAU) (DRAFFT YMGYNGHOROL)
Bydd y cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn cychwyn ar 24 Chwefror 2025 ac yn dod i ben ar 7 Ebrill 2025. NI FYDD SYLWADAU A DDERBYNNIR WEDI’R DYDDIAD YMA YN CAEL EU HYSTYRIED.
Sylwer bod RHAID i sylwadau ymwneud â’r Canllaw Cynllunio Atodol yn unig, ac nid am bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Ni fydd sylwadau eraill yn derbyn ystyriaeth.
Bydd eich sylw(adau) yn derbyn ystyriaeth llawn gan y Cyngor a phan yn briodol fe all y CCA gael ei ddiwygio er cyfarch eich sylw(adau). Fel rhan o’r broses o ffurfioli a mabwysiadu’r CCA, bydd Datganiad Ymgynghori yn cael ei baratoi a fydd yn manylu y broses ymgynghori cyhoeddus, manylion y sawl a ymgynghorwyd a hwy, y sylwadau a dderbyniwyd ac ymateb y Cyngor i’r sylw(adau) hynny.
Diogelu Data
Drwy lenwi'r ffurflen hon a’i gyflwyno i’r Awdurdod rydych yn rhoi caniatâd i’r Awdurdod brosesu eich data personol a bydd unrhyw wybodaeth a gyflwynir, gan gynnwys data personol (ond heb gynnwys manylion cyswllt personol), yn cael eu cyhoeddi. Bydd y wybodaeth yn cael ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Gwynedd ac o fewn adroddiadau pwyllgor perthnasol. Ni fydd y wybodaeth a ddarperir gennych o fewn yr Adran ‘Amdanoch chi’ yn cael ei gyhoeddi.
Bydd y wybodaeth hon yn cael ei gadw am gyfnod o 3 mlynedd yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol DU (RhDDC DU).
Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â Diogelu Data, cysylltwch â:
SwyddogDiogeluData@gwynedd.llyw.cymru