Rydych chi wedi cwblhau 0% o'r arolwg hwn
Caution: JavaScript execution is disabled in your browser or for this website. You may not be able to answer all questions in this survey. Please, verify your browser parameters.

Holiadur Celfyddydau ar Bresgripsiwn i Sefydliadau

Beth yw pwrpas yr holiadur? 

Rydym yn cynnal ymchwil ar greu cynllun celfyddydau ar bresgripsiwn yng Ngwynedd ac yn awyddus i dderbyn mewnbwn sefydliadau. Byddem yn ddiolchgar pe bai chi’n treulio ychydig funudau'n cwblhau'r holiadur, dylai gymryd tua 5-10 munud.  Bydd hyn yn ein helpu i fapio ac adnabod pa ddarpariaeth gelfyddydol sy'n bodoli yng Ngwynedd ar hyn o bryd ac eich barn ar y cynllun.

 

Beth ydy’r Celfyddydau?  Ydy’r Celfyddydau i bawb?

Mae’r diffiniad o’r ‘celfyddydau’ yn un eang iawn ac mae rhywbeth i bawb.  Mi all fod yn un, cyfuniad neu’r cyfan o’r canlynol - cerddoriaeth, drama, dawns, y celfyddydau gweledol a’r celfyddydau cymhwysol, ffotograffiaeth, ffilm, syrcas, celfyddydau stryd, carnifal, llenyddiaeth, celfyddydau digidol, crefftau, amlgyfrwng, cerflunio, barddoniaeth, theatr gerddoriaeth, canu, celfyddydau cymunedol.

 

Beth ydym yn olygu gyda Celfyddydau ar Bresgripsiwn? 

Yn yr un modd a derbyn meddyginiaeth trwy bresgripsiwn, rydym yn edrych ar sut allwn gynnig ‘celfyddydau ar bresgripsiwn’ yng Ngwynedd a pha ffordd fyddai orau o wneud hynny.  Rydym yn awyddus i dderbyn eich barn a’ch syniadau fel rhan o’r gwaith hwn. 

 

Pwy all gwblhau’r holiadur?  Sut byddwn yn defnyddio’r data? 

Mae’r holiadur ar gyfer sefydliadau sydd yn comisiynu, ariannu ac/neu ddarparu gweithgareddau celfyddydol yng Ngwynedd. 

 

Bydd eich ymateb yn cael ei drin yn gyfrinachol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data (2018). Ni fyddwn yn cyhoeddi eich ymateb na rhannu eich manylion gydag unrhyw sefydliad arall. Dim ond at ddibenion Ymchwil Celfyddydau ar Bresgripsiwn byddwn yn defnyddio eich ymatebion a byddent yn cael eu dileu o fewn 6 mis i ddiwedd y cynllun ymchwil. 

Mae 16 o gwestiynau yn yr arolwg hwn.