Croeso i Arolwg Teithio Llanbedr Cyngor Gwynedd!
Diolch am gytuno i gymryd rhan yn yr arolwg ar y cynlluniau arfaethedig i’w gwneud hi’n haws, yn fwy diogel ac yn fwy cyfleus i bobl deithio yn Llanbedr.
Bydd eich barn ar y gwelliannau y gellir eu gwneud yn helpu i ddatblygu’r dyluniadau ymhellach, gan sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y gymuned yn y ffordd orau.
Noder, efallai y bydd yr ymatebion i’r arolwg ar gael i’r cyhoedd ar ôl i’r gweithgarwch ymgysylltu ddod i ben. Fel arfer, byddai hyn ar ffurf adroddiad ar ganlyniadau’r ymarfer ymgysylltu, ond bydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n gyfrinachol ac ni chaiff ei datgelu. Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu a’i phrosesu’n briodol yn unol â gofynion deddfwriaeth diogelu data a phreifatrwydd. Bydd ymatebion arolwg yn cael eu cadw am 10 mlynedd. I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i: https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Gwybodaeth/Datganiadau-preifatrwydd-a-chwcis.aspx
Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau.