Mae Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo fersiwn drafft o’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyngor Gwynedd i’w ddefnyddio ar gyfer Ymgynghoriad Cyhoeddus.
Gwahoddir unigolion a chynrychiolwyr mudiadau i gynnig sylwadau ar y ddogfen drafft a defnyddir yr adborth i baratoi'r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyngor Gwynedd terfynol fydd yn weithredol hyd at 2028/29.
Gallwch ddarllen fersiwn drafft o'r Cynllun ar-lein yma: www.gwynedd.llyw.cymru/CynllunHawliauTramwy
Nid yw’r Cynllun yn cynnwys rhaglenni gwaith manwl gyda chostau gan nad yw’n bosibl rhagweld be fydd y sefyllfa ariannol dros oes y Cynllun. Yn hytrach, cyflwynir Datganiadau Gweithredu sy’n gosod cyfeiriad ac amcanion fydd yn cael eu defnyddio i flaenoriaethu adnoddau ac i lunio rhaglenni gwaith realistig am gyfnodau o hyd at dair blynedd ar y tro.
Mae’r holiadur yma’n gofyn cyfres o gwestiynau yn seiliedig ar y Datganiadau Gweithredu hynny yr ydym yn credu bydd gyda’r dylanwad mwyaf ar waith y Gwasanaeth Cefn Gwlad dros oes y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyngor Gwynedd.
Bydd y wybodaeth a roddwch wrth gwblhau'r holiadur hwn yn cael ei drin yn unol â gofynion deddfwriaeth diogelu data. Defnyddir y wybodaeth a gesglir ar gyfer helpu i baratoi'r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyngor Gwynedd terfynol fydd yn weithredol hyd at 2028/29.
Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 30 Medi 2022.