Cwblhewch y ffurflen yma er mwyn ymuno â Phanel Trigolion Gwynedd.
Beth sydd angen ei wybod cyn ymuno ...
-
Bydd eich manylion yn cael eu defnyddio ar gyfer pwrpas y Panel Trigolion yn unig - ni fydd eich manylion yn cael eu rhannu gydag unrhyw sefydliad arall.
-
Bydd eich manylion yn cael eu cadw am 3 blynedd. Pan fydd y cyfnod yma drosodd byddwn yn cysylltu â chi er mwyn sicrhau eich bod yn hapus i barhau i fod yn aelod o’r Panel.
-
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i'ch gwahodd i gymryd rhan mewn holiaduron.
-
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i'ch gwahodd i gymryd rhan mewn grwpiau ffocws / gweithdai os ydych yn dewis hynny.
-
Mae gennych yr hawl i newid eich meddwl a rhoi'r gorau i fod yn aelod o'r Panel ar unrhyw adeg, drwy e-bostio'r manylion isod. Byddwn yn dileu eich manylion o’r bas data o fewn 10 diwrnod gwaith.
Cysylltwch â ni drwy e-bostio PanelTrigolion@gwynedd.llyw.cymru os ydych angen cymorth i lenwi'r ffurflen.