Mae Cyngor Gwynedd wedi lansio cynllun newydd mewn ymateb i’r cyfnod heriol diweddar pan amlygwyd yr angen i weithio gyda busnesau i ddatblygu eu platfform digidol.
Bydd y prosiect yn cynnig cyfle i hyd at 65 o fusnesau lletygarwch a chynhyrchwyr bwyd a diod i fanteisio ar gefnogaeth arbenigol i wella eu platfform digidol dros gyfnod o flwyddyn. Byddwn yn cydweithio gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau er mwyn adnabod anghenion digidol penodol busnes, ac yna’n cynnig sesiynau hyfforddiant a mentora i ddiwallu’r anghenion hynny.
Bydd yr hyfforddiant yn cael ei deilwra yn benodol i anghenion busnesau sy’n rhan o’r cynllun, a gall gynnwys ystod eang o gyrsiau digidol, er enghraifft:
- Creu strategaeth marchnata ddigidol
- Creu neu uwchraddio cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a'i ddefnyddio'n effeithiol
- Gwella gwefannau a chreu cynnwys deniadol
- Dadansoddi a defnyddio data digidol yn effeithiol i gryfhau’r busnes
- Hysbysebu’n ddigidol
- Diogelwch digidol a GDPR
- Creu fideos deniadol i’w defnyddio i farchnata
- Creu neu uwchraddio llwyfan prynu/gwerthu ar-lein
- Gwella sgiliau digidol cyffredinol
- Cymorth i wella’r ddarpariaeth Gymraeg a chreu ‘Naws am Le’ yn ddigidol
Fel rhan o’r cynllun bydd Cyngor Gwynedd yn cydweithio gyda phrosiectau Arloesi Gwynedd Wledig i hybu cydweithio rhwng busnesau lletygarwch a chynhyrchwyr a darparwyr bwyd lleol, ac i gryfhau’r gadwyn gyflenwi. Byddwn hefyd yn annog busnesau i ddefnyddio iaith a diwylliant cyfoethog yr ardal i ddenu cynulleidfaoedd ehangach.
Bydd y cynllun yn rhedeg tan fis Mehefin 2023. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Siwan Evans ar 01286 679394 neu drwy e-bostio PlatfformDigidol@gwynedd.llyw.cymru
Mae 16 o gwestiynau yn yr arolwg hwn.