Mae Cyngor Gwynedd yn dymuno deall barn cymunedau lleol yng Ngwynedd am dwristiaeth. Mae’n bwysig i ni gael clywed eich barn chi.
Mae arolwg 2024 yn dilyn yr ymchwil a gynhaliwyd gan Croeso Cymru yn 2023 i geisio barn trigolion ar dwristiaeth. Mae'r arolwg yn cael ei reoli'n gyfan gwbl gan Gyngor Gwynedd a'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Fe hoffem ddysgu mwy am yr effaith y mae twristiaeth yn ei gael ar eich cymunedau a beth yw’r manteision a’r anfanteision sy’n deillio ohono. Bydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio i oleuo polisi twristiaeth yn y dyfodol, er mwyn ymateb yn y ffordd orau i anghenion lleol yr holl gymunedau cysylltiedig.
Mae eich cyfranogiad yn gwbl wirfoddol, ac mae rhwydd hynt i chi dynnu’n ôl o’r arolwg ar unrhyw adeg.
Bydd y wybodaeth a roddwch wrth gwblhau'r holiadur hwn yn cael ei drin yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data.